Spacer Image
Financing Growth Venture Capital Conference 06 Logo
Spacer Image
Spacer Image Spacer Image
Spacer Image
Spacer Image
Spacer Image
Spacer Image
Spacer Image Spacer Image


Y GYNHADLEDD

Yn cael ei chydnabod fel y brif gynhadledd fusnes i fusnesau Cymru, aeth trydedd cynhadledd undydd Ariannu Twf i’r afael â’r heriau allweddol sy’n wynebu busnesau twf.

Peter SissonsDan gadeiryddiaeth Peter Sissons a gyda rhaglen ardderchog o siaradwyr, rhagorodd digwyddiad eleni, a gynhaliwyd eto yn y Celtic Manor yng Nghasnewydd, ar bob disgwyliad a rhoi diwrnod ysbrydoledig a defnyddiol i gynrychiolwyr. Cafodd perchnogion a rheolwyr busnes gyfle i glywed gan entrepreneuriaid llwyddiannus a wynebodd heriau tebyg i’w rhai eu hunain. O broblemau llif arian i recriwtio personél, cafodd materion sy’n cadw arweinwyr busnes ar ddihun yn y nos eu trafod a’u datblygu mewn cyflwyniadau, sesiwn ryngweithiol a dwy sesiwn cwestiwn ac ateb. I weld cyflwyniadau siaradwyr, cliciwch yma os gwelwch yn dda.

Financing Growth Stands Arddangosodd dros 20 o gwmnïau yn y gynhadledd, gan fanteisio ar bresenoldeb cannoedd o arweinwyr busnes o bob rhan o Gymru. Roedd cinio bwffe a sawl egwyl te/coffi yn rhoi’r awyrgylch delfrydol ar gyfer rhwydweithio - dangosodd adborth fod yr awyrgylch hwn yn uchafbwynt pendant i’r digwyddiad, gydag arweinwyr busnes yn ymofyn gwneud cysylltiadau newydd a chlywed y manylion diweddaraf am ddigwyddiadau busnes diweddar yng Nghymru.

Financing Growth PresentationFin nos, cafodd gwesteion eu cyfarch gyda derbyniad siampaen cyn mynd i Ystafell Caernarfon ar gyfer Cinio Gala Ariannu Twf. Cyflwynydd y noson oedd Adrienne Lawler o deledu Sky, a dathlwyd llwyddiannau’r 50 cwmni twf cyflymaf yng Nghymru. I weld rhestr lawn o’r enillwyr, cliciwch yma.

Roedd Cynhadledd Ariannu Twf 2006 yn llwyddiant mawr; gweler islaw am adborth gan gynrychiolwyr a siaradwyr:

"Fe wnes fwynhau’r gynhadledd yn fawr. Rhwydweithio da a gwybodaeth wych ar botensial dwf cwmni".
Paul Gorin, Marble Recruitment

"Difyr a defnyddiol iawn – gwerth rhwydweithio da".
Sarah Jenkins - Price Jenkins & Co. Cyfrifwyr Siartredig

"Perfformiad proffesiynol iawn drwyddi draw".
David Jenkins, David Jenkins Cyf

"Diwrnod difyr a digon i gnoi cil arno, gyda chynnwys penodol da".
Mike Neyland, Menter Cymru

"Fe wnes fwynhau’r gynhadledd yn fawr iawn ac rydych chi a’ch tîm i’ch canmol am safon uchel y siaradwyr a’r drefniadaeth ardderchog".
Andrew Jardine, Atlantic Industries

"Roedd yn bleser mawr i weithio ar y digwyddiad - nid yn lleiaf oherwydd bod gennych un o’r rhaglenni gorau o siaradwyr a welais. Roedd yn noswaith hyfryd - yn wir rydych i’ch canmol am holl awyrgylch y digwyddiad.".
Peter Sissons, Cadeirydd y Gynhadledd

"Cyfle rhwydweithio ardderchog gyda siaradwyr o'r radd flaenaf. Roedd nifer ragorol o berchnogion-reolwyryn bresennol yn y digwyddiad ac mae'n siwr iddynt fynd gartref gyda chyngor gwerthfawr ar sut i dyfu ac ariannu eu busnesau ar gyfer y dyfodol".
Wyn Jenkins, Golygydd, Wales Business Insider



Spacer Image Spacer Image
Cynhelir Gan
Link to Finance Wales sponsor page
Noddwyr Allweddol
Barclays Bank logo link to Sponsors Site
PriceWaterhouseCoopers logo link to Sponsors Site
Noddwyd gan
Brewin Dolphin logo link to Sponsors Page
LSE logo link to Sponsors Page
Insider Logo
 
Mewn Partneriaeth ÿ
Spacer Image
WAG logo link to Sponsors WebSite
Spacer Image
Nid yw Cyllid Cymru yn derbyn unrhyw atebolrwydd mewn cysylltiad â gwefannau parti arall y medrir eu cyrchu drwy'r wefon hwn ac nid yw'n cefnogi na chymeradwyo cynnwys unrhyw safle o'r fath.
Hawlfraint © 2006 Cyllid Cymru Ccc.