
Jon Moulton
Teitl: "Sut i Beidio Ffynnu"
Mae cyflwyniadau gwybodus a chraff John Moulton
ar sut i beidio llwyddo mewn busnes yn seiliedig ar ei
brofiad ei hunan wrth iddo ddynodi rheolaeth ardderchog,
cyllid cryf ac osgoi 'camgymeriadau marwol' fel ffactorau
allweddol sy'n cyfrannu at lwyddiant busnes. Amlinellodd
wedyn sut y gall camgymeriadau cyffredin o fewn pedwar
maes allweddol mewn busnes gostio'n ddrud. Ystyriwyd bod
ag arbedion maint mawr a cheisio ymdreiddio marchnad oedd
eisoes yn orlawn yn gamgymeriadau strategol allweddol,
ac roedd cael gormod o gyllid ar gael yn rhy rhwydd yn
gamgymeriad mawr arall y gall cwmnïau ddioddef ohono.
Er hynny, gweithredu gan y rheolwyr a rheolaeth yn gyffredinol
oedd yn bennaf gyfrifol am gamgymeriadau marwol. Soniwyd
am optimistiaeth ddybryd, bod yn anghonfensiynol a datgysylltiedig
hefyd fel beiau rheolaeth, a hefyd cyfeiriwyd at ddiffygion
cyffredin megis diffyg profiad a diffyg rheolaeth. Ar
nodyn ysgafnach, mae rhai ystadegau diddorol am ysgaru
yn rhoi tystiolaeth fod rheolydd gydag un ysgariad yn
fwy tebygol o fod yn rheolydd llwyddiannus na rheolydd
heb unrhyw ysgariad. Gan orffen ar nodyn cadarnhaol, cydnabuwyd
manteision bod yn fusnes bach, yn cynnwys hyblygrwydd,
cefnogaeth wych ac yn hollbwysig, mynediad da i gyfalaf.
288kb
- Cliciwch yma i darlwytho PDF
................................................................

John Bates
Teitl: "Heriau Twf"
Fel Athro Cyswllt
Entrepreneuriaeth Ysgol Fusnes Llundain, mae John Bates
yn gryn arbenigydd ar heriau twf sy'n wynebu cynifer o
fusnesau. Gan ddefnyddio padiau allweddol drwy gydol ei
sesiwn, medrodd fwrw goleuni ar lawer o'r materion sy'n
cadw rheolwyr a pherchnogion ar ddihun.
Ar ôl cadarnhau mai'r ddau brif faes o gonsyrn i
bobl fusnes oedd recriwtio personél a rheolaeth
llif arian, aeth i'r afael â'r materion hyn drwy
holi'r gynulleidfa ar gyflogi a chadw staff a rheoli rheolaeth
ariannol o fewn busnes. Wedyn amlinellodd y camau nodweddiadol
yr aiff busnesau drwyddynt wrth ddatblygu - yn cynnwys
sefydlu, twf, adfywio ac adnewyddu, gan fanylu ar broblemau
cyffredin a'r datrysiadau iddynt.
Drwy holi'r gynulleidfa ymhellach am rwystrau i dwf a'r
gefnogaeth a ystyriant i fod ar gael, amlinellodd Bates
rai ffactorau pwysig wrth gynnal twf megis profiad, arbenigedd
a chyfeiriad cyn dod â'r cyfan i ben gydag ystadegau
calonogol a chyngor i'r entrepreneuriaid uchelgeisiol.
484kb
- Cliciwch yma i darlwytho PDF
................................................................

Sally Preston
Teitl: "Syniad Marchnad i Arweinydd
Marchnad"
Creodd Sally Preston sector marchnad newydd sbon
pan lansiodd ei hamrediad o fwyd rhew i fabanod. Aeth â'r
gynulleidfa ar ei thaith o gael y syniad am Babylicious
a'i dwf i fod yn arweinydd marchnad, yn rhoi sylw i'r heriau
a'r problemau a wynebodd a'u goresgyn ar hyd y ffordd.
Gan roi persbectif realistig ac ymarferol, siaradodd Sally
am ei phrofiad o ysgrifennu cynllun busnes, dod o hyd i
gyllid a goresgyn ymgais gan barti arall i ddwyn nod masnach
a brand Babylicious.
Ar ôl o'r diwedd gael Babylicious ar silffoedd Waitrose
ar draws Prydain, bu'n rhaid i Sally oresgyn problemau gyda
dosbarthu ac ailstocio cyn mynd i'r afael â mater
lleoliad cynnyrch oedd yn hollbwysig i lwyddiant y brand.
Yna, yn union fel yr oedd pethau'n disgyn i'w lle, wynebodd
Babylicious flaen tramgwydd arall pan wnaeth galwr ffug
gyyn yn erbyn Sally a pheryglu ei holl waith caled. Ar ôl
brwydr hir a chostus, llwyddodd i brofi fod yr honiadau
yn ffals ac unwaith eto parhaodd gyda'i chais i gael ei
chynnyrch ar y silffoedd.
Drwy siarad am ei phrofiad uniongyrchol ei hun a sut y goresgynodd
nifer fawr o broblemau, rhoddodd Sally ysbrydoliaeth ac
anogaeth i bobl leol yn wynebu heriau tebyg o fewn eu cwmnïau
eu hunain.
620kb
- Cliciwch yma i darlwytho PDF
................................................................

Joyce Morgan-Gervis
Teitl: "O Angerdd i Elw"
Syrthiodd Joyce a Nigel ei gwr mewn cariad gyda
fferm Ty Mawr a gadael Llundain am harddwch Bannau Brycheiniog
i sefydlu busnes yn arbenigo mewn cynhyrchu mortar, plaster
a phaent traddodiadol yn seiliedig ar galch. Siaradodd
Joyce am y frwydr i sefydlu Calch Ty Mawr a hyrwyddo manteision
defnyddio calch mewn adeiladu ac addurno.
Drwy gymryd yr opsiwn 'dim risg', cawsant eu hwynebu gyda
her hir a chaled adeiladu'r busnes heb help benthyciadau
banc, rhywbeth a gafodd yn anochel ei helpu gan eu hangerdd
dros yr hyn y maent yn ei wneud.
Maent yn awr yn cynnig cyrsiau hyfforddi arbenigol mewn
sgiliau adeiladu traddodiadol ac mae ganddynt amrediad
mawr o ddeunyddiau adeiladu ac addurno traddodiadol ac
ecolegol. Esboniodd Joyce sut y gwnaethant dargedu marchnadoedd
newydd a gweld brand Calch Ty Mawr yn tyfu'n sylweddol
dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf fel canlyniad eu
gwaith a'u dyfalbarhad diflino.
Drwy siarad am yr heriau y gwnaethant eu goresgyn a'r
gwersi y maent wedi eu dysgu, medrodd cynrychiolwyr gysylltu
â Joyce a chael anogaeth yn ei stori o lwyddiant.
644kb
- Cliciwch yma i darlwytho PDF
................................................................

Sir Digby Jones
Teitl: "Y Farchnad Fyd-eang
ar gyfer Busnes Twf y 21ain Ganrif"
Mae cyn gyfarwyddydd cyffredinol y CBI wedi cyhwfan
y faner dros fusnes ledled Prydain ac yn ei gyflwyniadau
gwladgarol trafododd rai cwestiynau perthnasol i fusnesau
yn y 21ain ganrif, yn cynnwys rhai o'r heriau a'r cyfleoedd
y byddant yn eu hwynebu. Er mai Prydain oedd piau'r 19eg
ganrif ac America oedd piau'r 20fed ganrif, roedd Syr
Digby yn grediniol mai Asia fydd piau'r 21ain ganrif ac
ni fydd hyn yn newid. Gwnaed Prydain ar gyfer globaleiddio
a gyda'i sefydlogrwydd macroeconomaidd, mae'n fwy na pharod
amdano. Rhestrodd rhai ystadegau trawiadol, gan gadarnhau
nerth Prydain ar y maes chwarae byd-eang - mae 1% o boblogaeth
y byd yn byw ym Mhrydain, gyda chymaint â 15% o
GDP y byd.
‘Mae elw'n beth da' oedd neges glir ei gyflwyniad,
hebddo ni fyddai unrhyw ysgol, ysbyty, ffordd na maes
awyr yn cael eu hadeiladu. Dylid meithrin enillwyr a dylem
fuddsoddi mewn pobl er mwyn llwyddo yn yr amgylchedd presennol.
Anogodd Syr Digby arweinwyr busnes i ymrwymo pobl ifanc
gan mai hwy yw'r genhedlaeth creu cyfoeth a dyfodol economi
seiliedig ar wybodaeth.
Gan roi cynghorion ar gyfer llwyddiant, barnwyd fod mynediad
i gyfalaf yn hollbwysig a chanmolwyd Cyllid Cymru am ddarparu
cyllid 'pen llai' ar gael i fusnesau twf. I orffen, amlinellodd
Syr Digby ethos syml ond pwysig dweud diolch, ymddiheuro'n
ddiffuant a bod yn glên, oherwydd ei bod yn anodd
iawn ceryddu person siriol!
................................................................

Doug Richard
Teitl: "Gwisgo am Fuddsoddiad:
Beth mae Buddsoddwyr yn edrych Amdano"
Mae gan sefydlydd
Libraru House dros 20 mlynedd o brofiad mewn mentrau meddalwedd
ac yn ei gyflwyniad rhannodd ei wybodaeth a golwg ar ei
feini prawf dethol wrth fuddsoddi mewn cwmni. Gyda phrofiad
mewn cychwyn busnesau a hefyd fuddsoddi ynddynt, nododd
Richard fod y meini prawf ar gyfer y ddau yn debyg iawn
mewn gwirionedd, rhywbeth y dylai buddsoddwr craff fod
yn ymwybodol ohono a'i ddefnyddio er ei fantais.
Rhestrwyd bod pobl, cynnyrch, marchnad ac achos buddsoddiad
yn bedair ffactor hollbwysig y mae Richard yn edrych arnynt
wrth wneud buddsoddiad. Wrth ystyried pobl, mae rhywun
a all werthu, cyflenwi a chyfrif yn beth prin felly mae'n
rhaid i entrepreneur gael tîm o bobl a all sicrhau
y caiff y swyddogaethau hyn eu trafod yn ddoeth. Yng nghyswllt
cynnyrch, rhaid iddo fod yn realistig a bod â photensial,
mae'n bwysig medru sylweddoli pan fo'r entrepreneur
yn well na'r cynnyrch, ac yn wir i'r gwrthwyneb.
Wrth ddewis eich marchnad, ystyriai Richard fod ei chyfradd
twf yn arwydd allweddol o lwyddiant cynnyrch, nid o reidrwydd
y maint. Yn olaf, yr achos buddsoddiad - mae deall y buddsoddiad
a natur entrepreneuriaeth yn ganolog i wneud buddsoddiad
llwyddiannus. Nododd Richard hefyd bwysigrwydd gwneud
camgymeriadau - mae entrepreneur llwyddiannus yn rhywun
sy'n gorffen ar y brig ond a wnaeth gamgymeriadau
i gyrraedd ble maent.